logoConfederationBritishSportThe Confederation of British Sport

Mae’r Confederation of British Sport yn gwmni sydd wedi’i gyfyngu gan warant. Ei rôl yw cefnogi a hyrwyddo gwaith ei aelodau, sef sefydliadau a Chyrff Llywodraethol chwaraeon amrywiol mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y DU gyfan, a’r rhai hynny sy’n ymwneud â materion Ewropeaidd a rhyngwladol drwy:

  • Ymgynghori gyda, cynrychioli a hysbysu aelodau’r Gymdeithas ynghylch materion sy’n berthnasol i’r DU gyfan; 
  • Gweithredu mewn ymgynghoriad gyda, ac fel corff ymgynghorol annibynnol (anllywodraethol) ar gyfer UK Sport a chyrff eraill perthnasol yn y DU; 
  • Gweithredu mewn ymgynghoriad gyda, ac fel corff ymgynghorol annibynnol (anllywodraethol) ar gyfer y Cabinet Chwaraeon a Llywodraeth y DU a’i asiantaethau;
  • Ymgynghori a rhwydweithio gydag aelodau’r Cydffederasiwn a chyrff eraill fel bo angen

Mae aelodaeth y Confederation of British Sport yn cynnwys y canlynol:

  • British Olympic Association (BOA)
  • Central Council for Physical Recreation (CCPR)
  • Northern Ireland Sports Forum (NISF)
  • Scottish Sports Association (SSA)
  • Cymdeithas Chwaraeon Cymru  (WSA)

Mae’r British Paralympic Association (BPA) hefyd wedi derbyn gwahoddiad i fod yn aelod.

Mae Cadeiryddiaeth y Cydffederaswin yn cylchdroi rhwng yr aelod sefydliadau yn flynyddol. Mae’r CCPR yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth Barhaol ac mae costau’r yswiriant yn cael eu talu bob blwyddyn gan y CCPR a’r BOA bob yn ail. Y sefydliad sy’n trefnu cyfarfod sy’n talu costau’r cyfarfod hwnnw a thelir costau teithio gan sefydliadau’r cynrychiolwyr sy’n teithio i’r cyfarfodydd.

Mae swyddogaethau a rhaglen waith y Cydffederasiwn yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd, ond mae’r meysydd y bydd y Cydffederasiwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn sydd i ddod yn cynnwys:

  • Cynrychiolaeth ryngwladol ar gyfer CLlC chwaraeon a hamdden; ynghyd â chynorthwyo, pan fo’n berthnasol, i gydlynu cymorth ar draws y DU gyfan i geisiadau ar gyfer digwyddiadau gan y gwledydd cartref a rhanbarthau Lloegr
  • Hyrwyddo’r angen am adeiladwaith Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS) ar gyfer chwaraeon a hamdden, gan gynnwys rhaglenni datblygu gwirfoddolwyr a buddsoddiad
  • Materion sy’n gyffredin i bawb yn y meysydd canlynol:

    1. Polisi nawdd ac ariannu, a’r polisi mewn perthynas â ffurflenni cyfreithiol ar gyfer chwaraeon a hamdden yn y Sector Gwirfoddol a Chymunedol, gan gynnwys statws elusennol a statws Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC)
    2. Mynediad a hawliau tramwy
    3. Cymwysterau galwedigaethol a safonau ledled y DU, ynghyd â sicrhau bod ffynonellau ariannol prif ffrwd ar gael i gynorthwyo gyda’r broses o gyflwyno’r rhain
    4. Cynrychiolaeth effeithiol ar gyfer y DU ymhlith CLlC rhyngwladol a fforymau’r Llywodraeth

Defnyddir grwpiau gwaith tymor byr hefyd, fel bo angen, i gynghori ar faterion penodol.

Privacy Policy

Site designed and
produced by
Web Design Cardiff
VSI-Thinking