Cefnogaeth i Ddatblygu Teithiau Tramor

Yn ddiweddar (2007), mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb am asesu ceisiadau ar gyfer cefnogi teithiau tramor, a gwaith gweinyddol y Cymorth Grant hwnnw o ddydd i ddydd, i Grŵp Gweithgareddau Awyr Agored Cymdeithas Chwaraeon Cymru. 

Yn y gorffennol, cafwyd y ceisiadau llwyddiannus yn draddodiadol o fyd mynydda, crwydro ogofâu, deifio mewn ogofâu, canŵio a pharagleidio. Ond mae Grŵp Gweithgareddau Awyr Agored Cymdeithas Chwaraeon Cymru’n fwy na pharod i ystyried ceisiadau gan weithgareddau awyr agored eraill, ar yr amod bod y daith yn arloesol ac yn debygol o wella datblygiad y gweithgaredd hwnnw. Ystyrir pob cais ar sail ei rinweddau ei hun, ac wedi ymgynghori â’r Corff Rheoli Cenedlaethol priodol. 

Cymhwysedd
Rhoddir blaenoriaeth i deithiau o Gymru ble mae mwyafrif yr aelodau’n Gymry. Dim ond aelodau o dimau Cymru fydd yn gymwys am gyllid ac mae’n rhaid iddynt gymhwyso ar sail genedigaeth, rhieni neu drwy fod yn byw yng Nghymru’n barhaol ers dwy flynedd neu fwy. 

Swm y Grant
Fel rheol bydd y grant yn gyfyngedig i gyfraniad o hyd at 50% tuag at gost amcangyfrifol y teithio, yn y DG a thramor, offer ychwanegol hanfodol ac offer diogelwch. 

Sut i Wneud Cais
Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am gymorth grant i gefnogi teithiau ar y ffurflen gais briodol cyn dyddiad arfaethedig y daith. Mae’n rhaid derbyn y ceisiadau erbyn 31 Rhagfyr, cyn y flwyddyn ariannol (1 Ebrill – 31 Mawrth) pryd cynhelir y daith.
Dylid anfon ymholiadau a cheisiadau at: 

Greta Gueresi-Leach
Cydlynydd Cyfathrebu
Cymdeithas Chwaraeon Cymru
Yr Athrofa Chwaraeon
Gerddi Sophia
Caerdydd
CF11 9SW 

E-bost: greta.gueresi-leach@welshsports.org.uk
Ffôn: 0845 846 0020 Ffacs: 0845 846 0014 

word Ffurflen Gais Dros y Môr (254k)
 Canllawiau Cymorth Dros y Môr (179k)

Privacy Policy

Site designed and
produced by
Web Design Cardiff
VSI-Thinking