Cyngor Chwaraeon Cymru
Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a hamdden. Fe’i sefydlwyd yn 1972 drwy Siarter Brenhinol a’r Cyngor yw prif ymgynghorydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar bopeth sy’n ymwneud â chwaraeon, ac mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu arian Loteri i chwaraeon yng Nghymru.
Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r prif noddwr craidd ar gyfer mwyafrif y CLlC yng Nghymru ac mae hefyd yn brif bartner a noddwr i’r Gymdeithas.
Yn wreiddiol, Is-bwyllgor o Gyngor Chwaraeon Cymru oedd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas, oedd yn cynghori ar faterion yn ymwneud â pholisïau CLlC.
Er nad felly y mae hi bellach, gan fod y Gymdeithas yn gorff annibynnol, hunanlywodraethol, cwbl ar wahân, mae’r ddau sefydliad yn parhau i gydweithio’n glòs ar faterion perthnasol, yn enwedig mewn perthynas â’r CLlC.
Cynrychiolydd y Gymdeithas ar Gyngor Chwaraeon Cymru yw ei Chadeirydd, Bob Turner, sydd yn aelod cyfetholedig.
http://www.cyngor-chwaraeon-cymru.co.uk |