Rhaglen Hyfforddi Cymdeithas Chwaraeon Cymru i Gyrff Rheoli Cenedlaethol
Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru’n ymroddedig i ddarparu i’w haelodau weithdai a hyfforddiant amserol er mwyn ceisio helpu i wella sgiliau a rhoi sylw i faterion a phroblemau allweddol.
Mae’r cyrsiau am ddim ond efallai y bydd raid talu ffi ganslo os byddwch yn archebu lle ac yna’n dweud nad oes modd i chi fynychu’r cwrs. Mae cyfyngiadau llym ar y lleoedd ar y cyrsiau ac maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Cyrsiau Hyfforddi Ionawr 2011 - Mawrth 2011
Gwaith Tîm 19eg Ionawr 2011 Pwynt Busnes Coleg Llandrillo, Dolgellau
Microsoft Publisher 20fed Ionawr 2011 Pwynt Busnes Coleg Llandrillo, Llanelwy
Dylanwadu ar y Cymulliad 25ain Ionawr 2011 WCVA Tŷ Baltig, Caerdydd
Cyflwyniad i Ymgyrchu a Lobïo 27ain Ionawr 2011 WCVA Tŷ Baltig, Caerdydd
Cymryd Cofnodion yn Effeithiol (1/2 diwrnod) 14eg Chwefror 2011 Pwynt Busnes Coleg Llandrillo, Llanelwy
Gwerthuso a Rheoli Perfformiad 17eg Chwefror 2011 Pwynt Busnes Coleg Llandrillo, Llanelwy
Rheoli Amser (1/2 diwrnod) 24ain Chwefror 2011 Pwynt Busnes Coleg Llandrillo, Llanelwy
Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth 17eg Mawrth 2011 WCVA Tŷ Baltig, Caerdydd
Cyflwyniad i’r Gyfraith Gyflogaeth (1/2 diwrnod) 6 Mai 2011 Pwynt Busnes Coleg Llandrillo, Llanelwy
Os hoffech archebu lle ar unrhyw rai o’r cyrsiau hyn neu os ydych angen rhagor o wybodaeth, ffoniwch Cymdeithas Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8237 neu anfonwch e-bost at Wendy Yardley.
|