Nod ac Amcanion
Er mwyn galluogi Cymdeithas Chwaraeon Cymru i gyflawni ei gweledigaeth mae angen inni sicrhau cynydd o fewn maes allweddol:
- Ymgynghori gyda, a gweithredu fel corff ymgynghorol annibynnol ar gyfer Cyngor Chwaraeon Cymru, UK Sport a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Cynrychioli barn gyffredinol Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) chwaraeon a hamdden corfforol yng Nghymru gerbron Cyngor Chwaraeon Cymru a chyrff eraill perthnasol.
- Darparu fforwm lle gellir rhoi ystyriaeth i lles a datblygiad chwaraeon yng Nghymru.
- Hyrwyddo cydweithrediad ymhlith CLlC chwaraeon a hamdden yng Nghymru.
- Hwyluso gweithredu ar y cyd rhwng sefydliadau o’r fath ar faterion sy’n gyffredin i bob un ohonynt.
- Hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol y maes chwaraeon a chynrychioli barn y CLlC ar lefel ryngwladol.
- Gweithio ar y cyd gyda’r Confederation of British Sport a’i aelodau o fewn y DU ac yn rhyngwladol, er mwyn cynrychioli barn gyffredinol chwaraeon yn y DU.
Os hoffech chi dderbyn copi caled o’n Cynllun Strategol cliciwch yma
Os hoffech chi dderbyn copi caled o’n Treftadaeth Chwaraeon i Gymru - Maniffesto ar gyfer chwaraeon yng Nghymru gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru cliciwch yma
|