![]() |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
![]() |
||
| cartref | Y WSA | gwasanawthau | cyhoeddiadau | newyddion | cwestiynau | chwilio | map o'r wefan | cysylltwch | ||||
Disgownts
Meddalwedd Cyfrifiadurol Meddalwedd Cyfrifiadurol Gall CLlC brynu faint fynnant o feddalwedd Microsoft a meddalwedd arall, gan gynnwys meddalwedd gwrth firws NAI am ddisgownt o hyd at 60 y cant. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Barry Lewis yn Pugh Computers ar 01974 200 217, e-bost barry@pugh.co.uk neu ewch i www.pugh.co.uk Telegyfathrebu Mae ‘Class Telecommunications’, darparwr cymeradwy gwasanaethau telecom ar gyfer aelodau’r WCVA, yn helpu cannoedd o sefydliadau gwirfoddol o bob maint i elwa o brisiau gostyngol arbennig ar alwadau ffôn, rhentu llinellau, ffonau symudol a mynediad i’r Rhyngrwyd. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn cysylltwch ag Aidan McAllister ar 0800 652 6464, e-bost wcva@classtelecom.co.uk neu ewch i www.classtelecom.co.uk Yswiriant Mae polisi yswiriant Encompass wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae’r polisi’n cynnig mynediad 24 awr i gyngor cyfreithiol proffesiynol ac amrywiaeth eang o fuddiannau. Am gyngor a dyfynbrisiau premiwm ffoniwch Keegan & Pennykid am ddim ar 0800 731 8030 neu ffacs 0800731 8448, e-bost mail@keegan-pennykid.com Gwasanaeth Cyfieithu Disgownt Fe fydd angen i fudiadau sy'n aelodau o CGGC ddarparu Cymen gyda'u rhif aelodaeth CGGC er mwyn cadarnhau eu statws, ac i agor cyfrif disgownt. Cysylltwch â Cymen ar 01286 674409, ymwelwch http://www.cymen.co.uk neu ebost cymen@cymen.co.uk Gwasanaeth Cyfieithu Disgownt Mae gan CLlC yr hawl i gael disgownt o 10% ar unrhyw waith cyfieithu Saesneg i Gymraeg neu Gymraeg i Saesneg gan asiantaeth cyfieithu Cymen. Bydd gofyn i GLlC ddarparu Cymen gyda rhif aelodaeth WCVA y Gymdeithas Chwaraeon er mwyn cadarnhau eu statws, ac agor cyfrif disgownt. Cysylltwch â Cymen ar 01286 674409, ewch i http://www.cymen.co.uk/ neu e-bostiwch cymen@cymen.co.uk Disgownt ar Lety a Chyfleusterau Cynadledda Mae gan CLlC yr hawl i gael y prisiau isaf bob amser yng ngwesty’r Thistle Caerdydd. Bydd aelodau’n talu £70 am ystafelloedd dwbl gan gynnwys brecwast a byddant yn cael eu huwchraddio i ystafell fwy moethus os oes rhai ar gael heb unrhyw dâl ychwanegol. Bydd aelodau hefyd yn cael disgownt o 10% oddi ar y pris gorau ar yr holl ystafelloedd cyfarfod/cynadledda yn y Thistle, Caerdydd. Cysylltwch â’r ddesg archebu yn y Thistle, Caerdydd ar 029 2078 5595. Ceir gwybodaeth bellach am y gwesty ar http://www.thistlehotels.co.uk/ Nwyddau Hyrwyddo Corfforaethol Disgowntiau ar amrywiaeth helaeth o nwyddau hyrwyddo, syniadau am roddion corfforaethol, dillad hyrwyddo a dewis eang o ddeunyddiau corfforaethol gwreiddiol. Mae gan aelodau hawl i gael disgownt o 5% oddi ar bob archeb o gatalog y cwmni nwyddau hyrwyddo o Gymru Get Yourself Noticed, sy'n cynnwys dros 1,000 o eitemau gwahanol. Bydd gan aelodau hawl hefyd i gael gostyngiad o 20% ar yr holl gostau sefydlu a disgowntiau arbennig ar gynhyrchu'r bwletinau misol. Am fwy o wybodaeth ac i ofyn am gopi o gatalog Get Yourself Noticed, cysylltwch â Sam Watras ar 01639 681000 neu anfonwch ebost at info@getyourselfnoticed.com. Am fwy o wybodaeth am yr holl ddisgowntiau a gynigir gan y WCVA, a fyddech cystal â chysylltu â Greta Gueresi-Leach yng Nghymdeithas Chwaraeon Cymru ar 0845 846 0020 neu e-bostio greta.gueresi-leach@welshsports.org.uk. Mewn nifer o achosion bydd angen rhoi rhif aelodaeth y Gymdeithas Chwaraeon er mwyn derbyn disgowntiau a chynigion. |
ENGLISH CYMRAEG select a language
| |||
| Privacy Policy Site designed and produced by Web Design Cardiff VSI-Thinking |
||||