![]() |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
![]() |
||
| cartref | Y WSA | gwasanawthau | cyhoeddiadau | newyddion | cwestiynau | chwilio | map o'r wefan | cysylltwch | ||||
CwestiynauBeth yw Cymdeithas Chwaraeon Cymru? Sefydlwyd Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) yn 1972, yn y lle cyntaf fel un o is-bwyllgorau Cyngor Chwaraeon Cymru, ond erbyn hyn mae’n gorff annibynnol sy’n cynrychioli ac yn cefnogi holl Gyrff Llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) chwaraeon a hamdden gorfforol yng Nghymru. Mwy o wybodaeth Sut alla i ddod yn aelod o’r Gymdeithas? Mae dau ddosbarth o aelodaeth: Aelodaeth Gyflawn: Mae hwn yn agored i gyrff llywodraethu sy’n cynrychioli prif fuddiannau eu chwaraeon yng Nghymru. Gall y Bwrdd argymell ymestyn hawliau aelodaeth gyflawn i’r Sefydliadau Cenedlaethol hynny sy’n chwarae rôl sylweddol o fewn y byd chwaraeon yng Nghymru. Mae gan sefydliadau sy’n aelodau cyflawn yr hawl i un bleidlais yng nghyfarfodydd Cyffredinol y Gymdeithas ac yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas. Aelodaeth Gyswllt: cynigir hwn gan y Gymdeithas i sefydliadau perthnasol eraill. Nid oes gan aelodau cyswllt unrhyw hawliau pleidleisio ac nid ydynt yn gymwys i ymgeisio am swyddi etholedig. Mae cael eich dewis ar gyfer un o’r ddau gategori aelodaeth yn amodol ar gymeradwyaeth yr Aelodau Cyflawn yn ystod un ai Gyfarfod Cyffredinol neu Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Manylion pellach ynghylch ymaelodi Beth yw buddiannau ymaelodi? Mae aelodaeth o Gymdeithas Chwaraeon Cymru’n cynnwys y buddiannau canlynol: • Cyfle i ddylanwadu ar bolisïau trwy’r lobïo a wnawn ar faterion allweddol sy’n effeithio ar chwaraeon a hamdden. • Hawliau dethol i’n dogfennau cyflogaeth ac Adnoddau Dynol, a baratowyd yn benodol ar gyfer cyrff llywodraethu gan Geldards Solicitors • Cyfleoedd hyfforddi am ddim a gweithdai ar destunau megis rheoli risg, datblygiad personol a phroffesiynol a TG. • Mynediad i gannoedd o ddogfennau cyfarwyddyd a chysylltau ar gyfer amddiffyn plant, cydraddoldeb, marchnata, cyllid, rheoli risg, llywodraethu corfforaethol a gwirfoddoli. • Defnydd o linell gymorth y Gymdeithas ar gyfer ymholiadau ynghylch y gyfraith gyflogaeth a chwmnïau, iechyd a diogelwch, trethi, y rhestr gyflogau a llawer mwy. • E-gylchlythyron misol ar y polisïau diweddaraf a materion sy’n effeithio ar chwaraeon a hamdden. • Tri chylchgrawn wsa : newyddion bob bllwyddyn • Mynediad i, a chymorth gyda’r cynllun YourBenefits • Cynigion a disgownts arbennig ar nwyddau a gwasanaethau • Gwahoddiad i’n cyfarfod cyffredinol blynyddol Pa fath o gyllid a gynigir gan y Gymdeithas? Mae’r WSA’n cynnig dau fath o gyllid; Hirdeithiau Tramor a Grantiau Diogelwch Chwaraeon. Sut alla i ddod o hyd i fanylion am yr hyfforddiant am ddim a gynigir gan y Gymdeithas a sut mae archebu lle? Rhaglen hyfforddiant Archebu lle Ydy’r Gymdeithas yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim ar gyfer ei haelodau? Mae’n hanfodol bod cyrff llywodraethu’n gallu derbyn cymorth a chyfarwyddyd amserol ar y llu o broblemau sy’n gysylltiedig â rhedeg busnes er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar yr hyn maent yn ei wneud orau, sef rhedeg eu chwaraeon. Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru wedi trefnu bod llinell gymorth ar gael sy’n darparu gwybodaeth ar nifer o bynciau amrywiol a gasglwyd gan y CCPR (Central Council for Physical Recreation) trwy gwmni profiadol Croner Consulting. Mae’r cwmni wedi sefydlu enw da’n cynorthwyo sefydliadau o fewn y sector chwaraeon a hamdden corfforol i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth a sicrhau arfer gorau. Cynghorir aelodau’r WSA i ofyn cyngor cyfreithiol uniongyrchol bob amser ar faterion penodol ac i ddefnyddio Llinell Gymorth y Gymdeithas i dderbyn cyfarwyddyd cyffredinol. Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cynnwys cyngor ysgrifenedig na drafftio dogfennau. Mae’r gwasanaeth ar gael i aelodau’n unig. • Cyflogaeth • Iechyd a Diogelwch • Trethi a TAW • Y Rhestr Gyflogau • Cyfraith Masnachu a Chytundebau • Materion Landordiaid a Thenantiaid • Cyfraith Cwmnïau • Gwarchod Defnyddwyr a Thrwyddedu • Hawlfraint a Phatentau Am fwy o wybodaeth ac i wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn cysylltwch â Wendy Yardley ar 0845 846 0020. Sut alla i dderbyn ‘wsa : newyddion’ a/neu danysgrifio ar gyfer yr e-gylchlythyr? Mae’r cylchgrawn ‘wsa : newyddion’ a’r e-gylchlythyr misol yn darparu cyrff llywodraethu a sefydliadau gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch polisïau, deddfau a newyddion y byd chwaraeon a hamdden. Tanysgrifio ar gyfer yr e-gylchlythyr Tanysgrifio ar gyfer ‘wsa : newyddion’ Copïau archif o’r cylchlythyron Beth yw Gwobr Arwr Di-glod a Gwobr Gweinyddwr y Flwyddyn? Cyflwynir y Wobr Arwr Di-glod i unigolyn sy’n arddangos angerdd ac ymrwymiad anhunanol tuag at ei gamp. Gall fod yn swyddog, yn hyfforddwr, yn rhiant sy’n helpu, neu’n un o’r bobl hynny sydd ei angen ar bob sefydliad – y gwirfoddolwr di-nod sy’n gwneud ei waith yn ddiffwdan heb chwilio am unrhyw gydnabyddiaeth, ond sydd, yn y bon yn cadw’r sefydliad hwnnw i fynd. Cyflwynir Gwobr Gweinyddwr y Flwyddyn i unigolyn sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’w gamp gyda’i ymdrechion diflino fel gweinyddwr. Gwobrwyir unigolion sy’n neilltuo rhan helaeth o’u bywydau’n rheolaidd oherwydd eu cariad tuag at y gamp, ac sy’n gwneud cyfraniad hanfodol tuag at y gwaith o drefnu rhaglenni’r gamp sy’n mynd â’u bryd. Cyflwynir y wobr hon yn flynyddol yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Chwaraeon Cymru. Sut alla i enwebu rhywun ar gyfer Gwobr Arwr Di-glod a Gwobr Gweinyddwr y Flwyddyn? Mae Ffurflenni enwebu ar gael o adran Wobrau’r wefan ac fe’u hychwanegir nifer o wythnosau cyn dyddiad pob gwobr. Gweler manylion pellach yma. Sut mae mynd ati i fewngofnodi i’r wefan fel aelod? Dylai pob corff llywodraethu fod wedi derbyn manylion mewngofnodi ar gyfer un neu ragor o brif bersonau cyswllt. Fodd bynnag, os nad yw’r rhain gennych neu os hoffech gael eich hychwanegu cysylltwch gyda Wendy trwy e-bost neu ar 0845 846 0020. Mewngofnodi i’r Adran Aelodau Sut alla i gysylltu gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru? Y prif gyswllt ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Cymru yw Wendy Yardley. Y manylion cyswllt llawn ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Cymru yw: Cymdeithas Chwaraeon Cymru Sefydliad Chwaraeon Cymru Gerddi Sophia Caerdydd CF11 9SW Ffôn: 0845 846 0020 Ffacs: 0845 846 0014 E-bost Ble mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru wedi’i lleoli? Mae’r Gymdeithas wedi’i lleoli yn adeilad Sefydliad Chwaraeon Cymru ac mae cyfarwyddiadau ar gael yma Cwestiynau eraill? Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach mae croeso ichi gysylltu â Wendy ar 0845 846 0020 neu e-bostio. |
ENGLISH CYMRAEG select a language
| |||
| Privacy Policy Site designed and produced by Web Design Cardiff VSI-Thinking |
||||