Llinell Gymorth

Mae’n hanfodol bod cyrff llywodraethu’n gallu derbyn cymorth a chyfarwyddyd amserol ar y llu o broblemau sy’n gysylltiedig â rhedeg busnes er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar yr hyn maent yn ei wneud orau, sef rhedeg eu chwaraeon. 

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru wedi trefnu bod llinell gymorth ar gael sy’n darparu gwybodaeth ar nifer o bynciau amrywiol a gasglwyd gan y CCPR (Central Council for Physical Recreation) trwy gwmni profiadol Croner Consulting. Mae’r cwmni wedi sefydlu enw da’n cynorthwyo sefydliadau o fewn y sector chwaraeon a hamdden corfforol i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth a sicrhau arfer gorau. 

Cynghorir aelodau’r WSA i ofyn cyngor cyfreithiol uniongyrchol bob amser ar faterion penodol ac i ddefnyddio Llinell Gymorth y Gymdeithas i dderbyn cyfarwyddyd cyffredinol. Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cynnwys cyngor ysgrifenedig na drafftio dogfennau. Mae’r gwasanaeth ar gael i aelodau’n unig. 

• Cyflogaeth
• Iechyd a Diogelwch
• Trethi a TAW
• Y Rhestr Gyflogau
• Cyfraith Masnachu a Chytundebau
• Materion Landordiaid a Thenantiaid
• Cyfraith Cwmnïau
• Gwarchod Defnyddwyr a Thrwyddedu
• Hawlfraint a Phatentau

Am fwy o wybodaeth ac i wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn cysylltwch â Greta Gueresi-Leach ar 0845 846 0020.

Privacy Policy

Site designed and
produced by
Web Design Cardiff
VSI-Thinking