![]() |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
![]() |
||
| cartref | Y WSA | gwasanawthau | cyhoeddiadau | newyddion | cwestiynau | chwilio | map o'r wefan | cysylltwch | ||||
AelodaethBuddiannau YmaelodiYmaelodi Rhestr o'r Aelodau Cymdeithas Chwaraeon Cymru yw’r corff ymbarél ar gyfer 60 o Gyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol, sefydliadau a grwpiau. Mae croeso bob amser i aelodau newydd sydd am fanteisio ar y gwasanaethau niferus a gynigir gan y Gymdeithas. Ar y dudalen hon ceir manylion am y rhai sydd eisoes yn aelodau o Gymdeithas Chwaraeon Cymru, pa fuddiannau a gynigir i aelodau a sut gall eich sefydliad chi ymuno. Buddiannau Ymaelodi Mae aelodaeth o Gymdeithas Chwaraeon Cymru’n cynnwys y buddiannau canlynol: • Cyfle i ddylanwadu ar bolisïau trwy’r lobïo a wnawn ar faterion allweddol sy’n effeithio ar chwaraeon a hamdden. • Hawliau dethol i’n dogfennau cyflogaeth ac Adnoddau Dynol, a baratowyd yn benodol ar gyfer cyrff llywodraethu gan Geldards Solicitors • Cyfleoedd hyfforddi am ddim a gweithdai ar destunau megis rheoli risg, datblygiad personol a phroffesiynol a TG. • Mynediad i gannoedd o ddogfennau cyfarwyddyd a chysylltau ar gyfer amddiffyn plant, cydraddoldeb, marchnata, cyllid, rheoli risg, llywodraethu corfforaethol a gwirfoddoli. • Defnydd o linell gymorth y Gymdeithas ar gyfer ymholiadau ynghylch y gyfraith gyflogaeth a chwmnïau, iechyd a diogelwch, trethi, y rhestr gyflogau a llawer mwy. • E-gylchlythyron misol ar y polisïau diweddaraf a materion sy’n effeithio ar chwaraeon a hamdden. • Tri chylchgrawn wsa : newyddion bob bllwyddyn • Mynediad i, a chymorth gyda’r cynllun YourBenefits • Cynigion a disgownts arbennig ar nwyddau a gwasanaethau • Gwahoddiad i’n cyfarfod cyffredinol blynyddol Ymaelodi Mae dau ddosbarth o aelodaeth: Aelodaeth Gyflawn: Mae hwn yn agored i gyrff llywodraethu sy’n cynrychioli prif fuddiannau eu chwaraeon yng Nghymru. Gall y Bwrdd argymell ymestyn hawliau aelodaeth gyflawn i’r Sefydliadau Cenedlaethol hynny sy’n chwarae rôl sylweddol o fewn y byd chwaraeon yng Nghymru. Mae gan sefydliadau sy’n aelodau cyflawn yr hawl i un bleidlais yng nghyfarfodydd Cyffredinol y Gymdeithas ac yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas. Aelodaeth Gyswllt: cynigir hwn gan y Gymdeithas i sefydliadau perthnasol eraill. Nid oes gan aelodau cyswllt unrhyw hawliau pleidleisio ac nid ydynt yn gymwys i ymgeisio am swyddi etholedig. Mae cael eich dewis ar gyfer un o’r ddau gategori aelodaeth yn amodol ar gymeradwyaeth yr Aelodau Cyflawn yn ystod un ai Gyfarfod Cyffredinol neu Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol. I ymgeisio am Aelodaeth o’r Gymdeithas, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen a geir yma. Rhestr o'r Aelodau I gael rhestr o holl Aelodau’r Gymdeithas cliciwch yma |
ENGLISH CYMRAEG select a language
| |||
| Privacy Policy Site designed and produced by Web Design Cardiff VSI-Thinking |
||||