Cyflwyniad
Sefydlwyd Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) yn 1972, yn y lle cyntaf fel un o is-bwyllgorau Cyngor Chwaraeon Cymru, ond erbyn hyn mae’n gorff annibynnol sy’n cynrychioli ac yn cefnogi holl Gyrff Llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) chwaraeon a hamdden gorfforol yng Nghymru.
Ers ei sefydlu bu’r WSA i bob pwrpas yn sefydliad ‘ymbarél’ ar gyfer CLlC chwaraeon yng Nghymru. Daw ei haelodau gan mwyaf o’r cyrff llywodraethol hynny sydd wedi’u rheoli gan wirfoddolwyr yn bennaf dros y blynyddoedd. Hefyd, y cyrff llywodraethol fu asgwrn cefn chwaraeon yng Nghymru, yn gyfrifol am y gwaith gweinyddol, y gwasanaethau ar gyfer aelodau, datblygu hyfforddwyr, hyfforddi swyddogion a rhaglenni cystadlu mewnol hyd at lefel genedlaethol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cyrff sy’n aelodau cyfansoddol o’r WSA wedi gweld cynnydd aruthrol yn eu llwyth gwaith. Er bod rhai erbyn hyn dan oruchwyliaeth staff cyflogedig, mae eraill yn parhau i ddibynnu ar ewyllys da gwirfoddolwyr. Hyd yn oed o fewn y CLlC hynny sydd â staff cyflogedig arbenigol, gall lefel yr ymrwymiad, y cyfrifoldeb a’r gofynion o ran amser y gwirfoddolwyr fod yn feichus dros ben. Mae’r rhan fwyaf o’r CLlC yn fregus yn ariannol, ac yn chwilio’n barhaus am ffrydiau ariannu eraill fel nad ydynt mor ddibynnol ar arian y Trysorlys, ond mae’r pwysau ar y CLlC a’u gwirfoddolwyr hefyd yn cael ei ddwysau gan y cynnydd yn yr achosion o weld bai, yr achosion cyfreithiol, y ddeddfwriaeth gynyddol, y rheoliadau a’r disgwyliadau.
Yn y bôn, mae’r cyrff llywodraethol, trwy wella eu rheolaeth gorfforaethol, yn anelu at gynyddu aelodaeth eu chwaraeon a chynhyrchu perfformwyr elitaidd trwy gyfrwng patrwm datblygiad chwaraeon cadarn a threfnus. Fodd bynnag, maent yn cael eu llethu fwyfwy gan domen o ddeddfwriaeth, canllawiau arfer da a hyd yn oed deddfwriaeth a rheoliadau anaddas a dibwrpas. Mae gan y WSA bedair prif gynulleidfa gyda golwg ar ddylanwadu, sicrhau hygrededd a datblygiad:
Yr Aelodau Mae’r WSA yn anelu at feithrin perthynas agored, ymatebol a rhyngddibynnol gyda’i holl aelodau.
Llywodraeth Cynulliad Cymru a Cyngor Chwaraeon Cymru Mae’r ddau sefydliad hwn yn gyfrifol am ddatblygu polisïau chwaraeon, ac maent yn mynnu gwasanaeth ymgynghori cyson a chynhwysfawr gan y Gymdeithas.
Cyrff Eraill Cyrff cyhoeddus a masnachol ym maes chwaraeon a’r sector gwirfoddol ehangach sy’n cynnig partneriaethau buddiol a rhwydweithiau cymorth sy’n ategu gweithgareddau’r Gymdeithas.
|