Gwirfoddoli
Cyfarwyddyd Linciau
Gwirfoddolwyr yw enaid chwaraeon Cymru, gyda dros 3.8% o oedolion y wlad yn gwirfoddoli ym myd chwaraeon, gan gyfrannu 2.5 o oriau’r wythnos ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynrychioli dros 90,000 o oedolion sy’n gyfystyr â chyfraniad o tua £86,000,000 i’r economi yn nhermau costau llafur yn unig. Mae gwirfoddolwyr ym myd chwaraeon yn y DU yn cynrychioli 26.2% o’r sector gwirfoddol yn ei gyfanrwydd; y gyfradd uchaf a gofnodwyd o unrhyw grŵp. Yn syml, heb wirfoddolwyr, ni fyddai’r byd chwaraeon yn bodoli ar ei ffurf bresennol. Er mwyn cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, mae angen inni gynyddu nifer y gwirfoddolwyr. Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru, mewn cydweithrediad â Cyngor Chwaraeon Cymru yn ymroi i:
• Greu amgylchedd positif gyda golwg ar gefnogi gwirfoddolwyr; annog mwy o rieni a gofalwyr i gynorthwyo i redeg chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc; cefnogi’r sefydliadau mae’n gweithio gyda nhw ym mha bynnag ffordd sy’n bosib • Gweithredu er mwyn recriwtio a datblygu gwirfoddolwyr ym myd chwaraeon • Chwalu’r rhwystrau gyda golwg ar hyfforddi gwirfoddolwyr. Dylid darparu hyfforddiant sy’n gyfleus o ran amser, lleoliad a chost. • Codi proffil gwirfoddoli gweithredol a chydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o wirfoddolwyr chwaraeon yng Nghymru.
Isod gallwch lawrlwytho nifer o ddogfennau cyfarwyddyd sy’n ymwneud â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn ogystal â gwybodaeth a chysylltau mwy cyffredinol.
Cyfarwyddyd
Datblygu strategaeth gwirfoddolwyr (WCVA)
Datblygu strategaeth gwirfoddolwyr (WCVA)
Recriwtio, dethol a sefydlu gwirfoddolwyr (WCVA)
Sut i gadw gwirfoddolwyr (WCVA)
Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel (WCVA)
Gwirfoddolwyr a'r gyfraith (WCVA)
Treuliau gwirfoddolwyr (WCVA)
Linciau
Welsh Council for Voluntary Action (WCVA)
National Council for Voluntary Organisations (NCVO)
Nôl i Cyfarwyddyd a Rheoli |