Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol

Y prif reswm dros sefydlu Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yw sicrhau bod yr egwyddorion a osodwyd yng Nghynllun Sector Gwirfoddol Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cael eu rhoi ar waith. Mae’r CPSG hefyd yn rhoi cyfle i’r sector gwirfoddol i godi materion cyfredol sydd o ddiddordeb neu gonsyrn allweddol gydag Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad. Mae’n gorff ar gyfer Cymru gyfan ac felly mae’n ymwneud â materion sy’n effeithio ar Gymru gyfan.

Cynllun y Sector Gwirfoddol

Mae Cynllun LlCC ar gyfer y Sector Gwirfoddol yn amlinellu’r modd y bydd yn hyrwyddo buddiannau grwpiau gwirfoddol a chymunedol trwy ei ymrwymiad i waith gwirfoddol, datblygiad cymunedol, ariannu, ymgynghoriad a gweithio mewn partneriaeth.

Gan weithio ochr yn ochr â’r Cynllun, mae gan bob cyngor lleol Gytundeb gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Ar lefel leol a chenedlaethol felly mae’r berthynas hon yn darparu cyfleoedd rheolaidd i rwydweithiau’r sector gwirfoddol fwydo eu pryderon a’u blaenoriaethau mewn i’r llywodraeth. 

Tudalennau LlCC ar Gynllun y Sector Gwirfoddol
Privacy Policy

Site designed and
produced by
Web Design Cardiff
VSI-Thinking