Current News

Un o’r Llewod yn helpu i greu enillwyr yng Nghymru

Kimmo Muttonen on 12/01/2005

Cwrddodd Martin Johnson CBE, fu’n gapten ddwywaith ar dîm rygbi’r Llewod â chapteniaid diwydiant yng Nghymru yn ystod digwyddiad a drefnwyd gan CChC yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Mawrth, Mai 24 mewn partneriaeth â’r cwmni technoleg gwybodaeth byd-eang HP.

Roedd y digwyddiad yn rhan o daith ddeuddydd o amgylch Cymru gan Martin Johnson, a’r bwriad oedd creu fforwm ar gyfer trafod yr arfer orau gyda golwg ar sgiliau megis arweinyddiaeth, ysgogiad, cynllunio a dadansoddi, a sut y gall chwaraeon a busnes elwa o gydweithio’n fwy clòs.

Roedd yn cynnwys cyfweliad rhwng Martin a chyflwynydd BBC Wales, Jason Mohammed, ynghyd â sesiwn cwestiwn ac ateb oedd yn agored i’r gynulleidfa oedd yn cynnwys arweinwyr o fyd chwaraeon a busnes.

Dywedodd Bob Turner, Cadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru: “Rhan o rôl CChC yw ymestyn y berthynas rhwng y gymuned fusnes a chwaraeon yng Nghymru a darparu cyngor a chymorth i’w phartneriaid ar arweinyddiaeth a llywodraethu. Roeddwn i’n falch iawn bod y digwyddiad wedi cynorthwyo’r ddau amcan hyn a hoffem ddiolch i bawb a fynychodd o noson gofiadwy hon”.


back to article index


Privacy Policy

Site designed and
produced by
Web Design Cardiff
VSI-Thinking
Accept & Close

Cookies

This website uses 'cookies' to give you the best, most relevant experience. Using this website means you're happy with this. You can find out more about the cookies used by clicking this link.