Newyddion Cyffredinol
Cynhadledd gyllido sector gwirfoddol Cymru 2006
Kimmo Muttonen on 20/12/2005
Dyma ail-rediad o'r gynhadledd gyllido sector gwirfoddol Cymru lwyddiannus a gynahliwyd ym mis Medi 2005.
Wrth i’r sector symud oddi wrth ddibyniaeth ar grantiau fel prif ffynhonnell incwm, bydd y gynhadledd yn cynorthwyo mudiadau i ddeall y sialensiau sydd o’u blaenau yn y dyfodol ac yn egluro sut i sicrhau cyllid yn llwyddiannus mewn amgylchedd sy’n newid.
Yn y gynhadledd ceir toreth o wybodaeth am ffynonellau cyllido a chyfle gwych i chi gael siarad wyneb-yn-wyneb ag ystod helaeth o gyllidwyr a chlywed gan siaradwyr uchel eu proffil am faterion sy’n effeithio ar y sector.
Ceir cyfle hefyd i gael trafodaeth gydag arbenigwyr ar y sialensiau sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol wrth geisio addasu ar gyfer y ffyrdd diweddaraf o gyllido.
back to article index
|