General News
YR IAITH GYMRAEG YN CYRRAEDD CARREG FILLTIR YN Y BYD CHWARAEON
Ceri Thomas on 05/03/2007
Mae disgwyl i’r modd y mae hyfforddiant, arweinyddiaeth a chyfarwyddyd yn cael eu cyflwyno ym mhob rhan o’r arena chwaraeon yng Nghymru gymryd cam arwyddocaol ymlaen yn ystod 2007 gyda chyflwyniad Dyfarniad Iaith Gymraeg cyntaf Tystysgrif Hyfforddi’r DG (UKCC). Rhaglen hyfforddi safonol newydd ledled y DG yw’r UKCC ac mae’n cymeradwyo cymwysterau addysgu hyfforddwyr chwaraeon-benodol.
Y nod yw sicrhau bod chwaraeon yn cyflwyno’r hyfforddiant athletwr-ganolog gorau sydd ar gael – yn y byd perfformio ac wrth fwynhau chwaraeon fel gweithgaredd hamdden – a’r penwythnos hwn (Sul 6ed Mai), bydd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog yn gartref i’r dyfarniad cyntaf erioed i gael ei gynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd llu o hyfforddwyr yn mynychu’r clwb yng Ngwynedd ar gyfer gweithdy deuddydd yn llawn sesiynau rhyngweithiol ac ymarferol ynghylch sut orau i gyflwyno rhaglen hyfforddi rygbi gyda’r amcan o sicrhau safon Lefel Un UKCC.
Mae disgwyl i’r sesiynau gynnwys arddangosfeydd ar sgiliau trin pêl, gwybodaeth am faterion amddiffyn plant a chanllawiau ynghylch sut orau i gyfathrebu a chyflwyno sesiwn hyfforddi a gynlluniwyd ymlaen llaw.
Mae’r dyfarniad yn benllanw gwaith ar y cyd gan Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Ceri Thomas, a Wynn Isaac, Swyddog Datblygu Rygbi Gwynedd.
Mae Ceri Thomas yn credu y gallai cyflwyno’r cwrs brofi’n garreg filltir allweddol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru a’r iaith:
“Mae’r achlysur hwn yn creu hanes ac yn codi proffil y ddarpariaeth hyfforddi cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
“Mae fy swydd i’n cynnwys gweithio’n agos gyda Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, sy’n eithriadol frwdfrydig ynghylch y cyfleoedd cynyddol i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cwrs hwn yn cadarnhau’r syniad ac yn dangos i bob camp ei bod yn bosibl darparu addysg i hyfforddwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cyrraedd yr un safonau â’r ddarpariaeth yn Saesneg.
“Hwn fydd y cyntaf o nifer o gyrsiau i gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd dyfarniad TAG Undeb Rygbi Cymru ar gael eto y tymor nesaf i helpu gyda chynyddu’r cyfleoedd i hyfforddwyr rygbi dderbyn hyfforddiant ac – yn bwysicach fyth – darparu cyfleoedd cymryd rhan ar gyfer pobl yn yr iaith o’u dewis hwy.”
Datblygodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru – y corff ymbarél ar gyfer cyrff rheoli chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru – Raglen Gefnogi Datblygiad yr Iaith Gymraeg mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Nod y cynllun yw creu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant, hyfforddi a derbyn hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n canolbwyntio ar gael hyd i hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith a chyfieithu’r adnoddau allweddol presennol i’r Gymraeg.
Felly, boed yn cymryd rhan mewn pêl droed neu ganŵio, tenis bwrdd neu rygbi, mae pobl ym mhob cwr o Gymru’n dechrau elwa o’r manteision o gael perffeithio eu sgiliau chwaraeon gyda hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith mewn awyrgylch Gymraeg.
Meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:
“Mae ymestyn y defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i giatiau’r ysgol yn allweddol bwysig ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoedd ar gael er mwyn i hyn ddigwydd. Wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, mae’r iaith yn cael cyfle i dyfu’n organig a bod yn rhan naturiol o fywydau pobl”.
Mae Undeb Rygbi Cymru’n hynod falch o fod y corff rheoli cyntaf i helpu gyda thorri tir newydd ac i helpu hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn chwaraeon yn y gymuned.
Meddai Rheolwr Addysg Hyffordi Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, John Schropfer:
“Mae hyfforddwyr yn gallu canfod a meithrin talent ifanc i fod yn sêr y dyfodol gan hybu gwerthoedd craidd fel gwaith caled, atebolrwydd, cred ac, yn fwy na dim, pleser o
back to article index
|