Gwobr

Gwobr Arwr Di-glod Cymdeithas Chwaraeon Cymru
Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru’n cydweithio’n glòs gydag Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru i gynyddu cydnabyddiaeth o rôl bwysig chwaraeon o fewn y wlad. Ffurfiwyd Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer cydnabod a chofnodi llwyddiannau dynion a menywod Cymru ym myd chwaraeon. 

Cyflwynir y Wobr Arwr Di-glod i unigolyn sy’n arddangos angerdd ac ymrwymiad anhunanol tuag at ei gamp. Gall fod yn swyddog, yn hyfforddwr, yn rhiant sy’n helpu, neu’n un o’r bobl hynny sydd ei angen ar bob sefydliad – y gwirfoddolwr di-nod sy’n gwneud ei waith yn ddiffwdan heb chwilio am unrhyw gydnabyddiaeth, ond sydd, yn y bon yn cadw’r sefydliad hwnnw i fynd. 

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gyn-enillwyr a ffurflenni enwebu.



Gwobr Gweinyddwr y Fwyddyn
Cyflwynir Gwobr Gweinyddwr y Flwyddyn i unigolyn sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’w gamp gyda’i ymdrechion diflino fel gweinyddwr. Gwobrwyir unigolion sy’n neilltuo rhan helaeth o’u bywydau’n rheolaidd oherwydd eu cariad tuag at y gamp, ac sy’n gwneud cyfraniad hanfodol tuag at y gwaith o drefnu rhaglenni’r gamp sy’n mynd â’u bryd. Cyflwynir y wobr hon yn flynyddol yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Chwaraeon Cymru. 

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gyn-enillwyr a ffurflenni enwebu

Privacy Policy

Site designed and
produced by
Web Design Cardiff
VSI-Thinking