Amddiffyn Plant
Cyfarwyddyd Awdurdod Diogelu Annibynnol Linciau
Gall chwaraeon gael dylanwad grymus a phositif iawn ar bobl – yn enwedig pobl ifanc. Gallant nid yn unig gynnig cyfleoedd ar gyfer mwynhad a chyflawniad; gallant hefyd ddatblygu gwerthoedd megis hunan-barch, arweinyddiaeth a gwaith tîm.
Datblygir yr effeithiau positif hyn os ydy’r chwaraeon yn y dwylo iawn yn unig – sef yn nwylo’r rhai sy’n rhoi lles pobl ifanc yn gyntaf ac yn mabwysiadu dulliau o weithredu sy’n cynorthwyo, yn amddiffyn ac yn grymuso. Dros y blynyddoedd diwethaf, yn arbennig, mae sefydliadau chwaraeon wedi dod yn fwy a mwy ymwybodol bod modd i unigolion sydd am niweidio plant ddefnyddio chwaraeon fel modd o gael mynediad at bobl ifanc. Mae gan yr holl chwaraeon ddyletswydd i ddiogelu plant rhag cael eu camdrin wrth gymryd rhan yn eu chwaraeon nhw.
Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn ymroi i weithio mewn partneriaeth gyda’i haelodau - Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol Chwaraeon yng Nghymru – er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a chyfleoedd hyfforddi yn eu lle er mwyn cynnal yr arfer orau wrth weithio gyda phobl ifanc.
Mae’r Gymdeithas yn ymroi i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n caniatau i bobl ifanc ragori mewn amgylchedd diogel ac i drosglwyddo neges fydd yn tawelu meddyliau rhieni ac yn cael effaith bositif ar recriwtio pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae agwedd y Gymdeithas tuag at amddiffyn plant yn seiliedig ar yr egwyddorion a gydnabyddir o fewn deddfwriaeth y DU, deddfwriaeth Rhyngwladol a chanllawiau’r Llywodraeth. Rhoddir ystyriaeth i’r canlynol:
• Deddf Plant 1989 • Deddf Amddiffyn Plant 1999 • Cydweithio er mwyn Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Adran Iechyd et al 1999)
Deddf Hawliau Dynol 1998 Mae’r Gymdeithas yn ymroi i weithio gyda’i phartneriaid – Cyngor Chwaraeon Cymru a CPSU (Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon) yr NSPCC (Cymdeithas Atal Creulondeb i Blant) – er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch anghenion plant ym maes chwaraeon a’r modd y gall Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol Chwaraeon a’r clybiau sy’n perthyn iddyn nhw weithredu er mwyn lleihau’r perygl i blant yn eu gofal.
Mae’r Gymdeithas yn ceisio gwneud hynny mewn ymgynghoriad llawn â’r CLlC ac mewn ffordd sydd i’w weld yn ymarferol ac yn realistig ac er nad yw rôl y Gymdeithas yn cynnwys rhoi gorchmynion, ni ellir cyfaddawdu mewn unrhyw ffordd gyda golwg ar anghenion, gofal a lles pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Gyda’i phartneriaid, mae prif amcanion y Gymdeithas gyda golwg ar amddiffyn plant fel â ganlyn:
• Sicrhau bod holl Gyrff Llywodraethol Cymru yn gweithredu polisïau a gweithdrefnau sy’n adlewyrchu Safonau Diogelu ac Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon. • Sicrhau bod holl Gyrff Llywodraethol Cymru â chynllun gweithredu polisïau amddiffyn plant sy’n adewyrchu’r safonau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant mewn chwaraeon. • Sicrhau bod holl Gyrff Llywodraethol Cymru yn meddu ar y gallu i hyrwyddo egwyddorion a safonau diogelu plant mewn chwaraeon ymhlith y partneriaid. • Sicrhau bod holl Gyrff Llywodraethol Cymru â mynediad i CRU (Uned Cofnodion Troseddol) y WCVA (Cyngor Gwirfoddolwyr Cymru).
New Welsh NGB Policy Template and Guidance Notes (July 2010) Sport Wales has commissioned the NSPCC CPSU to develop a Safeguarding Policy Template for NGBs that is specifically for Wales. This new policy template reflects recent legislation. NGBs should now use this policy template and guidance notes to ensure that their policy is up to date.
Cyfarwyddyd
Free CRB Checks for Voluntary Organisations (WCVA)
Standards for Safeguarding and Protecting Children in Sport (CPSU)
Defining Child Abuse (CPSU)
Club Guidelines for Safeguarding Children in Sport (CPSU)
Good Practice for Safeguarding Children (CPSU)
Example Child Protection Policy (NSPCC)
Safeguarding Policy Guidance Notes (NSPCC CPSU)
Safeguarding Policy Template (NSPCC CPSU)
Photographs and Images of Children (CPSU)
Use of Electronic Communication (CPSU)
Managing Challenging Behaviour (CPSU)
Guidelines on Staffing/Supervision Ratios (CPSU)
Sharing Sensitive Information (CPSU)
Safeguarding Children and Young People Policy & Procedure (CPSU)
Induction Booklet Sample (CPSU)
Letter to Parents (CPSU)
Medical Details and Consent Proforma (CPSU)
Rights and Responsibilities Matrix (CPSU)
Action Planning Sheets (CPSU)
Sample Policy Statement for Sports Clubs (CPSU)
The Role of Designated Officer (CPSU)
False Allegations (CPSU)
Awdurdod Diogelu Annibynnol
Safeguarding Vulnerable Groups Act (ISA)
Barred Lists (ISA)
Employers Duties (ISA)
Regulated and Controlled Activity (ISA)
Linciau
Child Protection in Sport Unit (CPSU)
NSPCC
Independent Safeguarding Authority
Back to Guidance and Governance
|